Tro cyntaf i mi gyfrannu: gobeithio bod y pwnc yn berthnasol.
Cefais fy ysbrydoli gan y cofnod blog yma gan Robin DeRosa sy’n disgrio’r broses o greu testunlyfr ar gyfer cwrs llenyddiaeth yr oedd yn ei ddysgu. Efallai bod yma syniadau sy’n berthnasol i’r cyd-destun Cymraeg, felly meddwl baswn i’n ei rannu. Mae enghreifftiau arbennig o destunlyfrau Cymraeg wedi ymddangos yn ddiweddar, wrth gwrs, ond pan dwi’n meddwl am glasuron fel ‘Cyflwyniad i gerddoriaeth John Cage’ a ‘Golwg ffeministaidd ar gerddoriaeth electroneg’ dwi’n teimlo mod i tuag at derfyn y gynffon hir.
Trio osgoi ei myfyrwyr rhag prynu testunlyfr drud oedd bwriad DeRosa pan aeth ati i greu detholiad amgen o lenyddiaeth gynnar yr UDA. Drwy gasglu testynnau perthnasol, gwahodd (a thalu) myfyrwyr i sgwennu cyflwyniadau i’r gwahanol destunau, a thrafod efo’i gilydd, fe grëwyd The Open Anthology of Earlier American Literature. Ond, fel mae hi’n dweud ‘the $85 dollars that I saved for each of my students seemed to be the least of what was exciting to me about the open anthology […] Boy, did I underestimate the power of the open textbook’ (DeRosa).
Dydi’r llyfrau uchod am John Cage a cherddoriaeth electroneg ddim yn bodoli, gyda llaw, a dwi’m yn rhagweld nhw’n bodoli yn y dyfodol agos chwaith, ond efallai bod prosiect DeRosa yn cynnig syniadau ynglŷn â sut y gallant nhw fodoli. Ond, yn fwy pwysig, mae’r syniadau addysgol a ddaeth i’r golwg wrth greu’r llyfr, y broses o gyd-ddysgu a chyd-greu, yn hynod o gyffroes, dwi’n meddwl.
Falch o dderbyn unrhyw sylwadau.
(Debyg mai ‘gwerslyfr’ ydi’r term mwyaf cyffredin ar gyfer ‘textbook’ ond dydi’r syniad o wers ddim yn eistedd yn iawn i mi efo addysg agored. Felly, es i am ‘testunlyfr’ GPC.)
The post Testunlyfrau agored a’r cynffon hir appeared first on Hacio'r Iaith.