Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru:
Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig.
Er mwyn sicrhau bod strategaeth TGCh integredig a chydlynol yn sail i ddysgu ac addysgu yng Nghymru, rydym yn cymryd nifer o gamau, gan gynnwys:
- lansio rhith-amgylchedd dysgu i Gymru gyfan (Hwb) ym mis Rhagfyr 2012;
- lansio sianel iTunes U i Gymru o’r enw Addysg Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
- cynnal Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ym mis Mehefin 2013;
- cyflwyno rhaglen datblygu proffesiynol, a ariennir yn ganolog, ar gyfer athrawon ac aelodau perthnasol eraill o staff, o fis Medi 2013.
Gallwch chi weld manylion pellach am Hwb a’r Sianel iTunes ar y ddogfen PDF yma sydd ar gael o’r dudalen newyddion hon.
Dyma’r disgrifiad byr o Hwb:
Beth yw Hwb?
Platfform dysgu ar-lein yw Hwb. Mae’n seiliedig ar dechnoleg Learning
Possibilities, LP+, sydd wedi ennill gwobrau. Trwy ddefnyddio Hwb,
bydd pob athro a dysgwr 3-19 yng Nghymru yn gallu manteisio ar
gyfoeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu sydd wedi’u caffael gan
Lywodraeth Cymru.Prif fantais y wefan yw ei gallu i hwyluso cydweithio o fewn ysgolion,
awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol a hefyd rhwng y
sefydliadau hyn. Bydd deunyddiau a allai fod yn batrwm i eraill yn cael
eu nodi a’u rhannu ar draws Cymru gyfan.
Fasa’n ddiddorol gwybod beth mae addysgwyr haciaith yn meddwl o’r datblygiadau. Fyddan nhw’n gwneud gwahaniaeth i addysg yn eich ysgolion chi?
The post ‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru appeared first on Hacio'r Iaith.